top of page
Barmouth Station

Trenau & Tocynnau

Rydym yn cynnig gwasanaethau tocynnau ar gyfer Network Rail I gyd, ar draws y Deyrnas Unedig. Rydym yn gallu cynllunio’ch taith a darganfod tocynnau rheilffyrdd ar gyfer y prisiau gorau. Yn aml, mae yna brisiau da iawn ar docynnau trên os wyt yn ei brynu yn gynnar, felly, dewch i mewn hefo’ch manylion teithio a fydd ei’n weithwyr yn edrych am y pris gorau i ti.

 

Mae’r Pwynt Gwybodaeth yn cynnig gwybodaeth am bob rhan o Network Rail, gan gynnwys pamffledi ar y wahanol railcards, ag amserlenni ar gyfer y trên. Mae manylion y railcards gwahanol i’w ddarganfod ar waelod y tudalen. Rydym yn cynnig:

  • Cambrian railcard

  • Seniors railcard

  • 16-26 railcard

  • Family and friends railcard

  • Two together railcard  

  • Disabled persons railcard

Beth am gymryd y trên am ddydd allan, i ymweld ar atyniadau lleol, neu i fwynhau llwybrau lleol?

Cambrian Railcard

Mae’r Cambrian yw cael ar gyfer unrhyw un sydd yn byw ar hyd y rheilffyrdd Cambrian, ac yn ei roi 1/3 oddi wrth y pris o deithio rhwng Pwllheli a Shrewsbury, gan gynnwys gorsafoedd rhwng y ddau fel Machynlleth, Aberystwyth a Newtown. Mae’r Cambrian yn costio £10 am y flwyddyn. Dewch a thystiolaeth o’ch preswylfa yn yr ardal (trwydded gyrru, datganiad banc etc.) a fydd ein staff yn gallu cyhoeddi’r Cambrian.

 

Senior Railcard

Mae’r Senior Railcard ar gyfer unrhyw un sydd dros yr oedran 60. Mae’r Senior yn costio £30 pob blwyddyn ond yn ddilys ar gyfer y rhan fwyaf o docynnau yn y DU, yn torri 1/3 oddi wrth y pris.

 

16-25 Railcard

Mae’r railcard 16-25 yn cael ei gynnig at unrhyw un rhwng y ddau oedran, a hefyd at fyfyrwyr aeddfed. I brynu’r railcard, mae’n bosib bydd rhaid dangos tystiolaeth o’ch oedran, neu’ch statws fel myfyriwr aeddfed. Dewch a llun pasbort i mewn hefyd, a fyddan ni yn gallu cynnig y railcard yma am, £30.

 

Family & Friends Railcard

Gall defnyddio’r railcard yma er mwyn derbyn gostwng ar docynnau, hyd at 4 oedolyn (gostwng o 1/3) a 4 plant (gostwng o 60%). £30 y flwyddyn yw’r pris unwaith eto, a fydd rhaid enwi dau oedolyn ar y Railcard, ond mae’n bosib ei ddefnyddio hefo un oedolyn ac un plentyn.

 

Two Together Railcard

Mae’r Two Together Railcard ar gyfer ddau deithiwr sydd wedi’i enwi dros yr oedran 16, ac yn rhoi 1/3 o ostwng ar gyfer y rhan fwyaf o docynnau Network Rail. Er mwyn prynu’r tocyn, fydd rhaid dod a lluniau basbort o’r ddau sydd wedi’i enwi ar y Railcard. Bris y railcard yma yw £30.

 

Disabled Persons Railcard

Pwrpas y railcard yma yw cynnig ostwng ar brisiau trên i bobl sydd hefo anabledd, sydd yn gwneud hi’n anoddach i deithio. Pris y railcard yw £20 ond fydd rhaid cyflwyno tystiolaeth o’ch anabledd. Un waith eto, mae’r railcard yn cynnig gostyngiad o 1/3.

bottom of page